2014 Rhif 3080 (Cy. 305)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hyn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5), fel y’u diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 2006”). Mae’r Rheoliadau’n gwneud darpariaeth ynghylch llaeth crai, ac felly’n ymwneud â’r gofynion y darperir ar eu cyfer gan Adran IX o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L 139, 30.04.2004, t 55)

Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 6 i Reoliadau 2006 er mwyn darparu ar gyfer parhau mewn grym, yng Nghymru, y gofyniad fod cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo wedi ei farcio neu ei labelu gyda rhybudd iechyd. Lle y mae llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu yn cael ei werthu mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r rhybudd iechyd ymddangos ar label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd neu ar docyn neu hysbysiad y gellir ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw. Caniateir defnyddio ieithoedd ychwanegol at y Saesneg ar y marc neu’r label.

Darperir ar gyfer y gofyniad rhybudd iechyd presennol gan reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499, fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1996”). Bydd rheoliad 31 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2014 gan reoliad 13 o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)) a Rhan 1 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu fod unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i’r gofynion rhybudd iechyd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen llunio asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2014 Rhif 3080 (Cy. 305)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014

Gwnaed                            19 Tachwedd 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2014

Yn dod i rym                        13 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) ac adrannau 16(1)(e)([2]) a 48(1)([3]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([4]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, o ran mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu bwyd ar lefel gynradd([5]).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([6]), cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

I’r graddau y gwneir y Rheoliadau drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno([7]). 

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([8]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (3A)”;

(b)     ar ôl paragraff (3), mewnosoder y paragraff canlynol—

(3A) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff 1A neu 1B o Atodlen 6 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3) Yn Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl)—

(a)     ar ôl paragraff 1, mewnosoder y paragraffau canlynol—

1A. Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7A yn cyflawni tramgwydd.

1B. Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7B yn cyflawni tramgwydd.”;

(b)     ar ôl paragraff 7, mewnosoder y paragraffau canlynol—

7A. Ac eithrio mewn achosion y mae paragraff 7B yn gymwys iddynt, rhaid i’r cynhwysydd y gwerthir unrhyw laeth crai ynddo fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r geiriau “This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.

7B. Yn achos unrhyw laeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r geiriau “Milk supplied in this establishment has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness. ymddangos ar—

(a)   label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo, neu

(b)  ar docyn neu hysbysiad, y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd, yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.

7C. Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7A, caiff y marc neu’r label gynnwys y testun CymraegNid yw’r llaeth hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.

7D. Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7B, caiff y label, tocyn neu hysbysiad gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth a ddarperir yn y sefydliad hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.

7E. Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn atal y canlynol rhag cael eu marcio neu eu labelu, fel y bo’n briodol, â thestun sy’n cyfateb i’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraffau 7A a 7B mewn unrhyw iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg—

(a)   y cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo;

(b)  yn achos llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo—

                       (i)  label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo,

                      (ii)  tocyn neu hysbysiad y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.;

(c)     ym mharagraff 8, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;;

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw  bwyty, cantîn, clwb, tafarndy, ysgol, ysbyty neu sefydliad cyffelyb (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle paratoir bwyd, yng nghwrs busnes, i’w gyflenwi i’r defnyddiwr olaf, a’r bwyd yn barod i’w fwyta heb ei baratoi ymhellach;;

ystyr “wedi ei ragbecynnu” (“prepacked”), mewn perthynas â bwyd, yw wedi ei roi mewn deunydd pacio cyn ei gynnig ar werth, fel nad oes modd i’r bwyd, boed wedi ei orchuddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn unig, gael ei newid heb agor neu newid y deunydd pacio, ac fel bod y bwyd yn barod ar gyfer ei werthu i’r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2014



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([2])           Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

([3])           Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

([4])           1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y’i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([5])           O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

([6])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy'n gosod darpariaethau ar gyfer rheoli gwariant mewn perthynas â’r gadwyn fwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, ac mewn perthynas å iechyd planhigion a defnyddiau atgynhyrchiol planhigion (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

([7])           Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 iddi.

([8])           O.S. 2006/31 (Cy. 5) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1534 (Cy. 151), O.S. 2007/373 (Cy. 33), O.S. 2010/893 (Cy. 92), O.S. 2012/975 (Cy. 129), O.S. 2012/1765 (Cy. 225), O.S.  2013/479 (Cy. 55), O.S. 2013/3007 (Cy. 298), O.S. 2013/3049 (Cy. 308), O.S. 2014/1858 (Cy. 192) ac O.S.2014/2303 (Cy. 227).